Rhif y ddeiseb: P-06-1326

Teitl y ddeiseb: Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar y Senedd i gynnal ymchwiliad i’r sgandal mesuryddion rhagdalu.
Dros y ddau fis diwethaf, mae tystiolaeth wedi dod i’r amlwg bod miloedd o bobl sydd wedi’u symud i fesuryddion rhagdalu heb y gwiriadau gofynnol o ran a ydynt yn agored i niwed.
Rydym ni yn Climate Cymru ac ymgyrchwyr eraill wedi bod yn datgelu’r sgandal hwn.

Gweler lincs i straeon gan newyddiadurwyr ymgyrchu fel Dean Kirby yn y papur newydd o’r enw i [pob un y tu ôl i wal dalu].

- Forced installations of prepayment meters to stop as courts ordered to end issuing warrants

- Prepayment meters must be removed for vulnerable families as compensation is not enough, Grant Schapps told

- i morning briefing: How the prepayment meter scandal was uncovered, and forced change

- Prepayment meters: Grant Schapps gives energy firms until Tuesday to consider compensation

- Prepayment meter investigation

 

 


1.        Cefndir

1.1.            Costau ynni cynyddol

Mae prisiau ynni cynyddol wedi bod cael llawer o sylw yn y newyddion, yn y DU ac ar draws y byd. Mae pris nwy wedi neidio i’r lefel uchaf erioed, gan gymryd prisiau trydan gydag ef, ac achosi i Lywodraeth y DU gamu i mewn i helpu pobl a busnesau.

Mae pris cyfanwerthu ynni wedi cynyddu oherwydd cyfuniad o ddigwyddiadau, gan arwain at lai o gyflenwad ynghyd â galw cynyddol.

Mae Ofgem, y rheoleiddiwr ynni, wedi gallu cyfyngu ar y cyfraddau y gall cyflenwr ei godi i gwsmeriaid domestig drwy roi ‘cap pris’ ar y gost fesul uned o drydan a nwy, yn ogystal â chyfyngiadau ar y tâl sefydlog ar gyfer pob un, ac yn ail-werthuso bob tri mis. Wrth i brisiau cyfanwerthu gynyddu, cynyddodd Ofgem lefel y cap prisiau.

Mewn ymateb i'r cap ar brisiauyn cynyddu, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Warant Pris Ynnifel mesur ychwanegol dros dro, ac ystyr hyn yw y bydd defnyddwyr yn talu llai am ynni nag o dan y cap ar brisiau. Ystyr hyn ar hyn o bryd yw, o fis Ebrill 2023 ymlaen, y bydd aelwyd arferol yn talu bil ynni blynyddol o £3,000 tan ddiwedd mis Mawrth 2024 (ond disgwylir iddo gael ei gadw ar y lefel bresennol, sef £2,500y flwyddyn).

Dywed Llywodraeth Cymru:

Yn ôl yr amcangyfrifon presennol, gallai hyd at 45% o bob aelwyd yng Nghymru fod mewn tlodi tanwydd yn sgil y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni.

1.2.          Talu ymlaen llaw

Mae mesuryddion rhagdalu yn fath o fesurydd ynni domestig sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dalu am ynni cyn ei ddefnyddio.

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, dywedwyd:

Mae tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu. Mae hyn tua 15% o bob aelwyd a 24% o denantiaid yn y sector rhentu preifat. Mae bron hanner tenantiaid tai cymdeithasol (45%) yn defnyddio mesuryddion rhagdalu.

Mae ynni'n ddrytach gyda mesurydd rhagdalu o'i gymharu â'r bargeinion debyd uniongyrchol gorau. Hefyd, mae llai o dariffau a chyflenwyr i ddewis ohonynt, ac mae gan gwsmeriaid opsiynau credyd mwy cyfyngedig gan nad ydynt yn gallu mynd i ôl-ddyledion. Cafodd y bwlch rhwng prisiau unedau oedd ar gael i fesuryddion rhagdalu a chwsmeriaid eraill ei leihau drwy'r cap ar brisiau, ac yn fwy diweddar drwy’r Warant Pris Ynni.

O dan y Warant Pris Ynni, mae cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu yn talu pris uned is am drydan na chwsmeriaid eraill. Er hynny, maen nhw’n talu pris uned uwch am nwy na chwsmeriaid sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol, ac yn talu taliadau sefydlog uwch na'r holl gwsmeriaid eraill am drydan a nwy.

Mewn cymhariaeth ddiweddar gan Which?, ym mis Rhagfyr 2022, canfuwyd gwahaniaeth o £60 y flwyddyn rhwng cytundeb tanwydd dwbl ar gyfer 'cartref nodweddiadol' sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol, a'r un aelwyd sydd â mesurydd rhagdalu. 

Canfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru fod dros 70 y cant o ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu yng Nghymru yn poeni am sicrhau bod arian yn eu mesurydd rhagdalu tan fis Ebrill, a’r hyn a ganlyn:

Bod 32% o ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu yng Nghymru wedi’u datgysylltu o’u cyflenwad ynni dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd na allan nhw fforddio ychwanegu ato. 

Os nad oes gan ddefnyddiwr sydd â mesurydd rhagdalu ddigon o arian i ychwanegu at eu mesurydd, neu pan nad ydynt yn sylweddoli bod y credyd ar y mesurydd yn mynd yn brin, mae eu mesurydd yn datgysylltu. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘hunan ddatgysylltiad’.

1.3.          Mae’r rhai sydd â mesuryddion rhagdalu ar y lefelau incwm isaf, i raddau anghymesur

Mae ymchwil gan y felin drafod annibynnol Resolution Foundation yn dangos bod bron i hanner (48 y cant) teuluoedd Prydain sy'n defnyddio mesuryddion rhagdalu yn y pumawd incwm isaf.

Dywed Barnardo's Cymru bod angen blaenoriaethu teuluoedd ar fesuryddion rhagdalu i'w newid lle bynnag y bo modd i beidio â rhagdalu, gan fod hyn yn parhau i fod yn dreth tlodi real iawn. At hynny, mae pobl ifanc yn aml yn wynebu rhai o ganlyniadau gwaethaf argyfyngau ariannol, a nhw sy’n debygol o gael eu taro waethaf gan gynyddu prisiau ynni. Mae aelwydydd iau hyd at bedair gwaith yn fwy tebygol o fod â mesuryddion rhagdalu, sy’n eu hatal rhag lledaenu costau ynni yn gyfartal drwy gydol y flwyddyn, gyda llai o gynilion i ddisgyn yn ôl arnynt o'i gymharu â grwpiau oedran hŷn.  

1.4.          Cwsmeriaid yn cael eu gorfodi i gael mesuryddion rhagdalu

Gall defnyddiwr a chyflenwr gytuno mai mesurydd rhagdalu yw'r opsiwn gorau i helpu i reoli unrhyw daliadau dyled. Fodd bynnag, gall cwmnïau ynni hefyd wneud cais i ynad i orfodi (dan warant) cwsmer i gael mesurydd rhagdalu heb eu caniatâd os ydynt wedi cronni dyledion.

Mae canllawiau arfer da Ofgem ar gyfer cefnogi cwsmeriaid sy’n cael trafferthion wrth dalu yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr ynni nodi cwsmeriaid bregus a chynnig cymorth iddyn nhw os yw eu dyledion yn cronni.

Yn dilyn adroddiadau nad oedd cwmnïau ynni'n gwneud digon i gefnogi cwsmeriaid bregus, ar 22 Ionawr gwnaeth Grant Shapps AS, Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar y pryd, ysgrifennu at gyflenwyr ynni yn galw arnynt i roi'r gorau i symud defnyddwyr draw i fesuryddion rhagdalu drwy orfod, heb gymryd pob cam i gefnogi defnyddwyr mewn trafferthion.

Yn dilyn hyn, ysgrifennodd Jonathan Brearley, Prif Weithredwr Ofgem, at yr Ysgrifennydd Gwladol yn nodi adolygiadau cydymffurfio â'r farchnad (MCR) blaenorol i ddull llywodraethu a phrosesau cyflenwyr ynghylch sut maen nhw'n trin cwsmeriaid sy’n cael trafferth talu. Canfuwyd bod gan dri chyflenwyr wendidau difrifol yn y modd maen nhw'n cefnogi'r cwsmeriaid hyn.

Yn ei lythyr, nododd Jonathan Bearley gamau gweithredu arfaethedig Ofgem, gan gynnwys cynnal adolygiad pellach o gydymffurfiaeth â’r farchnad oedd yn canolbwyntio ar arferion cyflenwyr o ran mesuryddion rhagdalu.

Ers hynny, adroddwyd bod 32,790 o warantau wedi eu rhoi ym mis Ionawr i osod mesuryddion rhagdalu drwy rym. Gofynnodd Ofgem i gyflenwyr roi’r gorau i osod drwy rym am y tro a chynnal adolygiad trylwyr o brosesau. Mae ynadon ers hynny wedi cael gorchymyn i roi'r gorau i gyhoeddi gwarantau ar gyfer yr arfer hon yng Nghymru a Lloegr.

Mae Ofgem hefyd wedi galw ar bob cyflenwr i ddefnyddio'r saib o ran gosod mesuryddion (sy'n para tan 31 Mawrth 2023) i adolygu eu holl osodiadau mesuryddion rhagdalu gorfodol ac o bell yn ddiweddar, ac ystyried a oes angen gwrthdroi unrhyw un, a chynnig iawndal lle nad yw'r rheolau llym wedi'u dilyn.  

Yn dilyn ymyrraeth gan Aelodau Seneddol ac Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelwch Ynni a Net Sero (ar hyn o bryd), Grant Shapps AS, mae cyflenwyr ynni wedi ymrwymo i roi diwedd ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol yng nghartrefi cwsmeriaid bregus.

Bydd Ofgem hefyd yn cynnal ymchwiliad brys i Nwy Prydain, yn dilyn ymchwiliad cudd gan The Times i’r ffordd y gwnaeth y cwmni drin cwsmeriaid pan oedd mesuryddion rhagdalu yn cael eu gosod drwy orfod.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae dosbarthu a chyflenwi trydan, a chyflenwi nwy, yn faterion sy’n cael eu cadw yn ôl i San Steffan o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae diogelu defnyddwyr hefyd yn fater a gedwir yn ôl. Mae'n annhebygol felly y gallai Llywodraeth Cymru gyfyngu neu wahardd gosod mesuryddion rhagdalu.

O ran y cap/gwarant pris ynni, mae hwn hefyd yn fater a gedwir yn ôl, ac mae Ofgem yn atebol i Senedd y DU. Fodd bynnag, gall Llywodraeth Cymru weithredu cynlluniau i gefnogi pobl yng Nghymru. Er enghraifft ym mis Mehefin 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Talebau Tanwydd i'r rhai sy'n talu ymlaen llaw am ynni, naill ai ar fesuryddion rhagdalu neu lle maen nhw'n ddibynnol ar wresogi olew.

Yn dilyn cyfarfod â chyflenwyr ynni ym mis Ionawr 2023, dywedodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

Dywedodd y cyflenwyr wrthyf mai’r dewis olaf yw symud deiliaid tai i fesuryddion rhagdalu, ac er y canfyddiad bod cysylltiad rhwng mesuryddion rhagdalu a dyled, nododd nifer o’r cyflenwyr fod y mwyafrif o’u cwsmeriaid rhagdalu yn defnyddio’r mesuryddion fel offeryn i reoli defnydd.

Cadarnhaodd y cyflenwyr eu bod yn gwneud pob ymdrech i ymgysylltu â chwsmeriaid cyn ystyried mesurydd rhagdalu ar eu cyfer ac, yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen dilyn proses hir cyn gosod mesurydd o’r fath, a hynny drwy gytundeb â deiliad y tŷ. Mae mesurau ar waith i benderfynu a fyddai mesurydd rhagdalu yn briodol i rywun.

Dywedodd y Gweinidog bod cyflenwyr ynni wedi cytuno i rannu data ynglŷn â nifer yr aelwydydd sy’n derbyn cymorth gyda’u biliau ynni a/neu’n cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu, a’r rhesymau dros wneud hynny. Cytunon nhw hefyd i ddarparu gwybodaeth am 'hunan ddatgysylltiad'.

Dywedodd y Gweinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi galw’n gyson ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i gyflwyno tariff cymdeithasol er mwyn diogelu’r deiliad tai mwyaf agored i niwed, a chafwyd cefnogaeth eang dros y syniad hwn ymhlith cyflenwyr ynni.

Gwnaeth y Gweinidog gwrdd â chwmnïau ynni eto ar 23 Ionawr, a mynegodd ei bod wedi'i brawychu i glywed am nifer y mesuryddion rhagdalu oedd wedi cael eu gosod yn orfodol.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Gofynnwyd cwestiwn amserol yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Ionawr, gan Jack Sargeant AS, lle galwodd am waharddiad ar unwaith ar orfodi gosod mesuryddion rhagdalu. Cafodd y mater ei godi eto yn y Cyfarfod Llawn gan Jack Sargeant ar 1 Mawrth.

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wedi bod yn cynnal ymchwiliad ar ddyled ac effaith costau byw cynyddol. Codwyd mesuryddion rhagdalu a’r hyn a ddatgelwyd yn ddiweddar ynghylch gosod mesuryddion yn orfodol yn ystod yr ymchwiliad hwn ar 30 Ionawr a 13 Chwefror. Nid yw’r Pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau eto.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.